³ÉÈË´óƬ

Blaenau Gwent yn mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon — ffigurau newydd yn datgelu bod y cyngor ymhlith y gorau ar gyfer rhoi hysbysiadau cosb benodedig

Blaenau Gwent yn mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon — ffigurau newydd yn datgelu bod y cyngor ymhlith y gorau ar gyfer rhoi hysbysiadau cosb benodedig

  • Mae Llywodraeth Cymru a Thaclo Tipio Cymru yn nodi gostyngiad o 4% mewn achosion o dipio anghyfreithlon o gymharu â’r llynedd.
  • Rhondda Cynon Taf, Casnewydd a Chaerdydd gafodd y nifer uchaf o erlyniadau – gyda 23, 14 a 9 erlyniad, yn y drefn honno.
  • Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Blaenau Gwent roddodd y nifer uchaf o ddirwyon yn y fan a'r lle – gyda 511, 103 a 90 yn cael eu rhoi, yn y drefn honno.

Mae ffigurau newydd a ryddhawyd heddiw (16 Tachwedd) gan Lywodraeth Cymru a yn datgelu gostyngiad o 4% mewn tipio anghyfreithlon o’i gymharu â’r llynedd, wrth i gynghorau yng Nghymru barhau i fynd i’r afael â’r drosedd. Mae ffigurau’n datgelu bod Blaenau Gwent yn un o’r cynghorau sy’n perfformio orau, gan gyhoeddi 90 o hysbysiadau cosb benodedig.

Mae'r adroddiad hefyd yn datgelu bod Rhondda Cynon Taf (23 erlyniad), Casnewydd (14 erlyniad) a Chaerdydd (9 erlyniad) ymysg yr awdurdodau lleol sydd wedi cyflawni'r nifer uchaf o erlyniadau llwyddiannus ar gyfer tipio anghyfreithlon yng Nghymru.Ìý

Y cynghorau eraill a berfformiodd orau ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig - sef dirwyon i’r rheini y canfuwyd bod eu gwastraff wedi’i dipio’n anghyfreithlon - oedd Caerdydd (511 Hysbysiad Cosb Benodedig) a Sir Gâr (103 Hysbysiad Cosb Benodedig).

Cymerir y camau hyn i orfodi’r gyfraith ac i atal tipwyr anghyfreithlon – cyhoeddir hysbysiadau cosb benodedig am droseddau amgylcheddol ar raddfa lai megis gollwng sbwriel, tipio anghyfreithlon ar raddfa lai, a methiant i wirio bod gan rywun drwydded wrth ei gyflogi i symud gwastraff. Yn y cyfamser, defnyddir erlyniad i gosbi’r rhai sy’n gyfrifol am dipio anghyfreithlon ar raddfa fawr, troseddau tipio anghyfreithlon ailadroddus, tipio anghyfreithlon masnachol, neu dipio anghyfreithlon o wastraff peryglus.

Datgelodd adroddiad 2022-23, sy’n dadansoddi tipio anghyfreithlon a gofnodwyd gan gynghorau rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023, y cafodd cyfanswm o 27,373 o gamau gorfodi gwastraff (llythyrau rhybuddio, hysbysiadau cosb benodedig, rhybuddiadau ffurfiol ac erlyniadau) eu cymryd yng Nghymru hefyd.

Roedd 59 o erlyniadau llwyddiannus yn ffigurau eleni, gostyngiad ar y ffigur o 91 y llynedd.Ìý Fodd bynnag, roedd ffigur y llynedd yn cynnwys nifer o achosion yn cael eu clywed ar ôl cael eu hoedi o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.Ìý Yn galonogol, mae cynghorau wedi cynyddu eu defnydd o hysbysiadau cosb benodedig ar gyfer tipio anghyfreithlon o 906 yn 2021-22 i 1129 eleni.

Er bod gostyngiad bach yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon, dylai deiliaid tai fod yn ofalus gan fod Cymru’n barhau i weld niferoedd enfawr o sgamwyr ar-lein, a elwir yn aml yn ‘dipwyr anghyfreithlon Facebook’, yn honni eu bod yn gludwyr gwastraff cyfreithlon mewn cymunedau ar-lein, gan fanteisio ar ddeiliaid tai diarwybod a dympio eu gwastraff yn anghyfreithlon.

Amcangyfrif cost clirio tipio anghyfreithlon i drethdalwyr Cymru yw £1.83 miliwn rhwng 2022 a 2023, gyda gwastraff cartref yn gyfrifol am 70% o dipio anghyfreithlon.Ìý Fodd bynnag, gallai'r ffigur hwn gael ei leihau’n sylweddol trwy bob deiliad tÅ· yn dilyn eu gwastraff, sef sicrhau eu bod yn cyflogi cludwyr gwastraff cofrestredig yn unig i fynd â'u gwastraff i ffwrdd.

Gall trigolion Cymru gefnogi eu cyngor lleol a helpu i barhau â’r duedd ar i lawr drwy wirio bod y person sy’n cludo gwastraff o’u cartrefi yn meddu ar drwydded. Gellir gwirio trwyddedau cludo gwastraff yma: neu drwy ffonio 0300 065 3000.

Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet dros Le a’r Amgylchedd a Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae brwydro yn erbyn tipio anghyfreithlon yn flaenoriaeth i’r Cyngor.

“Mae gennym Dîm Gorfodi ar y Cyd effeithiol gydag ymagwedd benodol a chydgysylltiedig i'r broblem hon. Mae gweithio'n agos gyda chydweithwyr Glanhau Strydoedd a defnyddio teledu cylch cyfyng yn rhagweithiol wedi arwain at y ffigurau cadarnhaol a welwn heddiw.

“Ni ddylai tipwyr anghyfreithlon fod dan unrhyw gamargraff, os ydyn nhw’n tipio’n anghyfreithlon o fewn Blaenau Gwent, y byddwn ni’n cymryd y camau gorfodi angenrheidiol yn eu herbyn.â€

Dywedodd Neil Harrison, Arweinydd Tîm Taclo Tipio Cymru:

“Mae cynghorau ledled Cymru yn gweithio’n ddiflino i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ac i atal y troseddwyr sy’n difetha ein tirwedd. Mae’n gadarnhaol iawn gweld eu hymdrechion parhaus yn cael eu hadlewyrchu yn y gostyngiad cyffredinol mewn tipio anghyfreithlon ledled Cymru yn ffigurau eleni.

“Mae’n dal yn wir fod tua 70% o’r holl dipio anghyfreithlon yn cynnwys gwastraff o gartrefi, a dyna pam rydym yn annog trigolion i amddiffyn eu hunain rhag cludwyr gwastraff anghyfreithlon anghofrestredig ac yn gofyn iddynt wirio bob amser gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a yw’r sawl y maent yn ei ddefnyddio i symud unrhyw wastraff dros ben o'u cartrefi yn gludwr gwastraff cofrestredig.

“Mae’r cynnydd mewn cyfryngau cymdeithasol wedi dod â chynnydd yn nifer y tipwyr anghyfreithlon sy’n honni eu bod yn gludwyr gwastraff cyfreithlon mewn grwpiau ar-lein – felly, mae’n bwysicach nag erioed bod deiliaid tai yn wyliadwrus wrth ddilyn eu dyletswydd gofal ar gyfer gwastraff cartref wrth dalu rhywun i gael gwared ar eu gwastraff.â€

Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd ddifrifol. Mae’n achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd, yr economi a chymunedau lleol – mae deiliaid tai nad ydynt yn gwirio am drwydded yn wynebu cosb benodedig o £300 neu ddirwy hyd at £5,000 a chofnod troseddol os eir i Lys Ynadon.Ìý Gall y sawl a geir yn euog o dipio'r gwastraff yn anghyfreithlon dderbyn dirwy ddiderfyn a hyd at bum mlynedd yn y carchar.

Wrth drefnu i gael gwared ar wastraff cartref, mae’n ofynnol i bobl yng Nghymru wirio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru bod yr unigolyn neu gwmni y maent yn ei ddefnyddio yn gludwr gwastraff cofrestredig drwy ymweld â neu drwy ffonio 03000 653000.

Darllenwch fwy am sut i osgoi ‘tipiwr anghyfreithlon Facebook’ wrth ddod o hyd i gludwr gwastraff ar wefan Taclo Tipio Cymru – chwiliwch .

I gael rhagor o wybodaeth am ffyrdd o reoli a chael gwared ar eich gwastraff yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn gyfrifol, ewch i dilynwch @FtAW ar Twitter neu chwiliwch @FtAWales ar Facebook.