成人大片

Gwarchod hawliau plant yn y gweithle

Cyn Mis Ymwybyddiaeth Cyflogaeth Plant, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn atgoffa busnesau fod angen trwydded i gydymffurfio gyda chyfreithiau cyflogaeth er mwyn cyflogi plant rhwng 13 a 16 oed. Mae鈥檙 trwyddedau hyn ar gael yn rhad ac am ddim gan y cyngor lleol y mae鈥檙 man cyflogaeth ynddo.


Ni chaniateir i unrhyw blentyn dan 13 oed weithio yng Nghymru os nad ydynt yn cymryd rhan mewn prosiectau Adloniant a Pherfformiad.


Mae Ymgyrch Ymwybyddiaeth Genedlaethol a gynhelir ar draws y wlad ym mis Ebrill lle bydd cynghorau yn atgoffa cyflogwyr fod plant rhwng 13 a 16 oed angen Trwydded Gwaith i鈥檞 galluogi i wneud gwaith rhan-amser.


Lles plant yw鈥檙 ystyriaeth bennaf ac os ydynt yn cymryd rhan mewn cyfleoedd gwaith rhan-amser, mae angen i ni sicrhau y caiff eu hanghenion eu cyflawni gan gyflogwyr a bod plant sydd yn gweithio yn gwneud hynny鈥檔 ddiogel.


Yn ystod y mis hwn, bydd swyddogion o鈥檙 Awdurdod Lleol yn ymweld 芒 mannau busnes ar draws y fwrdeistref i sicrhau fod pobl ifanc mewn swyddi rhan-amser yn ddiogel ac yn gweithio鈥檔 gyfreithlon.


Dan is-ddeddfau yn rheoleiddio cyflogaeth plant a masnachu stryd gan bersonau dan 18 oed, a gyflwynwyd dros 50 mlynedd yn 么l, gall plant rhwng 13 a 16 oed gymryd rhan mewn gwaith ysgafn mewn nifer o wahanol feysydd yn cynnwys: gwaith siop, gwaith swyddfa a gweithio mewn caffes, bwytai, golchi ceir a stablau marchogaeth.


Ni chaniateir cyflogi unrhyw blentyn cyn 7.00am neu ar 么l 7.00pm ar unrhyw ddiwrnod. Ni all unrhyw blentyn weithio am fwy na 4 awr heb seibiant o leiaf 1 awr ac ni all unrhyw blentyn weithio am fwy na 2 awr ar ddydd Sul rhwng 7.00am a 7.00pm.


Yn ystod y tymor, ni chaniateir cyflogi unrhyw blentyn am fwy na 12 awr yr wythnos ac mae hefyd ganllawiau eraill ar gyfer y nifer o benwythnosau ac oriau yn ystod cyfnodau gwyliau y gall plant weithio.