成人大片

Derbyniodd sefydliadau Gwent gyllid gan y Loteri Genedlaethol i ymdrin â digartrefedd

Mae sefydliadau ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen wedi derbyn bron i 拢50,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer model menter gymdeithasol newydd, mewn ymgais trwy鈥檙 ardal i atal digartrefedd.

Mae鈥檙 rhaglen Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd wedi derbyn 拢49,976 tuag at rwydwaith integredig o wasanaethau cymorth gan gynnwys tai, iechyd, hyfforddiant a mentrau cyflogaeth.

Bydd y prosiect, sy鈥檔 cynnwys timau amlasiantaeth o鈥檙 sector cyhoeddus, y trydydd sector a鈥檙 sector preifat drwy Went yn datblygu atebion arloesol i ategu cynlluniau Cam 2 yr awdurdod lleol i wneud digartrefedd yn anfynych, byr a byth yn digwydd eto.

Mae鈥檙 model newydd yn anelu at ddatblygu cynlluniau ar gyfer pedair o them芒u allweddol drwy Went.

1. Cyfleoedd hyfforddi a chyflogi
2. Rhaglen cynghorwyr cymheiriaid
3. Gwasanaethau arbenigol sy鈥檔 deall trawma
4. Tai

Mae gwasanaethau digartrefedd drwy Went wedi wynebu nifer o heriau sydd wedi cael eu gwaethygu gan y pandemig. Mae鈥檙 galw am wasanaethau tai yn parhau yn uchel a rhagwelir y bydd pwysau ychwanegol ar dai dros dro a thai parhaol yn codi oherwydd y nifer o bobl sy鈥檔 cael anawsterau ariannol.  Dengys ffigurau 2019-20 Llywodraeth Cymru fod 1,938 o gartrefi wedi cael eu bygwth y byddan nhw鈥檔 ddigartref drwy Went yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ychwanegol, mae gwasanaethau ymyrraeth a chymorth yn parhau i ordanysgrifio, gyda chynnydd yn y nifer o achosion cymhleth.  Felly, mae鈥檔 hanfodol fod yr holl asiantaethau yn yr ardal yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau gwell a mwy effeithiol ar gyfer pobl drwy Went.

Mae鈥檙 prosiect yn bartneriaeth o 22 sefydliad, pob un yn cynrychioli cymunedau sydd angen tai.  Mae sefydliadau ac asiantaethau sydd ynghlwm 芒 hyn yn cynnwys The Wallich, Cyfannol Women鈥檚 Aid, Ymddiriedolaeth St. Giles, Tai Pawb, Kaleidoscope, Cartrefi Dinas Casnewydd, Melin Homes, Tai Cymunedol Bron Afon, Tai Cymunedol Tai Calon, GCPhEM, Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Bwrdeistref Sirol Caerffili, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Dywedodd Gareth Jones, Rheolwr Ardal De-ddwyrain Cymru yn The Wallich:

鈥淢ae鈥檙 pandemig wedi bod yn her anferth i bobl sy鈥檔 profi digartrefedd, ond rydym wedi ymateb i鈥檙 galw er mwyn cadw pobl yn ddiogel. Fodd bynnag, gyda鈥檙 cynllun ffyrlo yn dod i ben, y canlyniadau economaidd yn parhau i gael eu hasesu a chynnydd tebygol mewn pobl yn cael eu troi allan o鈥檜 cartrefi oherwydd 么l-ddyledion rhent, mae llawer mwy o bobl mewn risg o ddod yn ddigartref.  Mae鈥檙 Wallich wrth ei fodd yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau ac awdurdodau lleol o鈥檙 un feddwl er mwyn ymdrin 芒鈥檙 heriau 么l-bandemig newydd sydd o鈥檔 blaenau.  Mae鈥檙 prosiect hwn yn anelu at atal digartrefedd drwy gynorthwyo pobl i gael gwaith a gwella mynediad at gyngor a chymorth.  Drwy atal digatrefedd a chreu cymunedau gwydn, mae gobaith am well dyfodol.鈥

Dywedodd Simon Rose, Rheolwr Gr诺p 鈥 Tai a Chomisiynu yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen:

鈥淢ae鈥檙 heriau ar gyfer pob asiantaeth i ymdrin a lliniaru digartrefedd a鈥檙 problemau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 digartrefedd wedi cynyddu yn sylweddol oherwydd y pandemig, ond mae cyfleoedd i ddatblygu partneriaethau cydweithredol wrth galon yr ymateb a鈥檙 adferiad. Dyma gyfle cyffrous dros ben ar gyfer trawsnewid gwasanaethau a bywydau.

Dywedodd Angela Lee, Cydlynydd Datblygu Rhanbarthol Gwent:

鈥淒rwy adeiladu ar y partneriaethau cryf ar draws asiantaethau yng Ngwent, mae鈥檙 prosiect hwn yn rhoi cyfle ffantastig a chwmpas inni i ddatblygu modelau a ffyrdd newydd o gydweithio, er mwyn sicrhau pan mae digartrefedd yn digwydd, bydd yn anfynych, byr a byth yn digwydd eto.鈥

Mae Taclo Digartrefedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gronfa 拢10 miliwn yn benodol ar gyfer prosiectau strategol sy鈥檔 ceisio ailwampio gwasanaethau er mwyn gwneud digartrefedd yng Nghymru yn anfynych, byr a byth yn digwydd eto. Bydd y grant o 拢49,976 a ddyfernir yn cefnogi datblygu cynnig prosiect am 5-7 mlynedd lawn ar gyfer derbyn cyfran o鈥檙 gronfa 拢10 miliwn.  Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 prosiectau fod yn ganolog ar yr unigolion a chael eu cyflawni gan bartneriaethau amlasiantaeth lle mae鈥檙 sefydliadau trydydd sector a鈥檙 sector cyhoeddus yn gweithio yn agos gyda鈥檌 gilydd, yn seiliedig ar weledigaeth a gytunwyd arni yn gydfuddiannol ar gyfer ymdrin 芒 digartrefedd.

Drwy Went, bydd y bartneriaeth yn datblygu hyfforddiant a chyfleoedd gwaith drwy fodel menter gymdeithasol a nifer o fentrau er mwyn hybu cyflogaeth ac ailfuddsoddi yn y gymuned leol.  Gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn diweithdra yng Nghymru nag unrhyw ran o鈥檙 DU rhwng misoedd Awst a Hydref 2020, gyda lefelau diweithdra yn codi i 4.8% a lefelau diswyddo yn cyrraedd yr uchaf erioed.

Bydd y Rhaglen Cynghorwyr Cymheiriaid, sy鈥檔 cael ei harwain gan Ymddiriedolaeth St Giles, yn cynyddu cyfleoedd i bobl gyda phrofiad byw o ddigartrefedd a gwasanaethau iechyd i ddarparu gwybodaeth ar gyfer cynllunio a chyflawni rhaglenni effeithiol a pherthnasol.

Mae鈥檙 grant yn golygu y bydd cynnydd yn y mynediad at wasanaethau arbenigol sy鈥檔 deall trawma i bobl yn y rhanbarth sydd ag anghenion cymorth cymhleth.  Bydd mentrau yn cael eu sbarduno gan sefydliadau penodol sy鈥檔 arbenigwyr mewn darparu gwasanaethau pwrpasol.  Er enghraifft, gwasanaethau merched (sy鈥檔 cael eu harwain gan Cymorth i Ferched Cyfannol), gwasanaethau iechyd meddwl, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol, ynghyd 芒 chymorth ar gyfer ffoaduriaid, ceiswyr lloches a phobl Nad oes ganddyn nhw Hawl i Gyllid Cyhoeddus (NHGC).

Yn olaf, bydd y gronfa newydd yn ailgynllunio gwasanaethau cymorth sydd fawr eu hangen ar gyfer tenantiaeth a thai.  Gyda mwy o alw am dai, mae鈥檔 golygu y bydd mwy o ddefnydd o鈥檙 sector rhent preifat a bydd y gwasanaeth newydd yn cefnogi landlordiaid a thenantiaid er mwyn sicrhau na fydd y denantiaeth yn dod i ben, datrys anghydfodau a lleihau鈥檙 risg o ddigartrefedd posibl.