成人大片

Erlyn dyn o Nant-y-glo am ddympio gwastraff

Mae dyn o Nant-y-glo wedi cyfaddef dympio gwastraff yn anghyfreithlon yn y fwrdeistref sirol ar 么l ei symud o eiddo cwsmer oedd yn talu.

Plediodd Lee Powell, o Waunheulog, yn euog i dri chyhuddiad o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a dyfarnwyd 拢1,665 i'r Cyngor mewn costau. Cafodd Powell ei ddal ar 么l i ohebiaeth a ddarganfuwyd ar y safle arwain at berson a oedd wedi ei ddefnyddio i symud gwastraff o'u cartref, a gafodd ei ddympio yn ddiweddarach yn Golf Road, Nant-y-glo.

Anwybyddodd Powell ymholiadau a wnaed gan swyddogion y Cyngor. Cafodd y cyhuddiadau eu rhoi ger ei fron yn Llys Ynadon Cwmbr芒n, a phlediodd yn euog i ollwng gwastraff rheoledig heb awdurdod, caniat谩u i wastraff gwympo o gerbyd a methu 芒 chynhyrchu dogfennaeth yn ymwneud 芒 gwaredu gwastraff.

Dangosodd ymchwiliadau fod Powell yn hysbysebu gwasanaethau gwaredu gwastraff ar y cyfryngau cymdeithasol.

Dylai deiliaid tai bob amser sicrhau eu bod yn defnyddio cludwyr gwastraff cyfreithlon i waredu eu gwastraff trwy wirio bod gan berson sy'n symud gwastraff o'u cartref drwydded cludo gwastraff, ac i le mae'r cludwr hwnnw'n mynd 芒'u gwastraff i'w waredu. Dylai deiliaid tai gofnodi enw'r unigolyn neu'r busnes sy'n cymryd eu gwastraff, y cerbyd y maent yn ei ddefnyddio, gan gynnwys eu mynegai cofrestru, a chadw cofnod o unrhyw daliad a wneir am y gwaith. Byddai'r holl wybodaeth hon yn amhrisiadwy wrth gynorthwyo awdurdodau lleol yn eu gwaith ymchwilio pe bai unrhyw wastraff sy'n cael ei symud yn cael ei dipio'n anghyfreithlon wedi hynny.

Gellir gwirio trwyddedau cludo gwastraff drwy neu drwy ffonio Cyfoeth Naturiol Cymru ar 0300 065 3000.