³ÉÈË´óƬ

Gwella Effeithlonrwydd Ynni mewn Cartrefi ym Mlaenau Gwent

Llwyddodd y Cyngor i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru dan raglen Cartrefi Cynnes Arbed. Fe wnaeth hyn hi'n bosibl i gartrefi yng Nglynebwy, Llanhiledd a Brynithel fanteisio ar dechnoleg effeithlonrwydd ynni.

Sicrhawyd cyfraniadau cyllid gan asiantaethau partneriaeth eraill i gwblhau'r prosiect: Cartrefi Cymunedol Tai Cymru a Rhwymedigaeth Cwmnïau Eco (arbedion carbon).

Fel rhan o'r cynllun manteisiodd y ganolfan gymunedol leol ym Mrynithel o werth £6,800 o baneli solar a osodwyd ar yr adeilad i wella effeithlonrwydd ynni y ganolfan. Cyflawnwyd hyn mewn dull partneriaeth gyda'r Tîm Gwyrddach o Cartrefi Melin yn gweithio gyda'r ganolfan. Derbyniodd 250 cartref insiwleiddiad waliau allanol a 10 cartref foeleri newydd.

Dywedodd Jim McIlwee, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdesidref Sirol Blaenau Gwent:

“Bu hwn yn gynllun gwych lle medrodd y Cyngor sicrhau cyllid i gynorthwyo i wneud cartrefi yn yr ardal yn fwy effeithiol o ran ynni.

"Mae'r ganolfan gymunedol leol ym Mrynithel a nifer o gartrefi o amgylch y fwrdeisdref wedi cael budd o'r cynllun. Byddant yn helpu'r eiddo i ddod yn fwy effeithiol o ran ynni ac yn yr hirdymor bydd yn cael effaith gadarnhaol ar wneud cartrefi'n gysurus, gostwng biliau ynni ac yn well i'r amgylchedd.

"Cafodd cyfanswm o £3,123.774.47 ei fuddsoddi yn y cynllun ac amcangyfrifir yr arbedir 5,779 tunnell fetrig o garbon yn ystod oes yr adeiladau.
Mae mwy o wybodaeth ar effeithiolrwydd ynni a gael ar wefan Llywodraeth Cymru drwy'r ddolen islaw:

http://gov.wales/topics/environmentcountryside/energy/efficiency/?skip=1&lang=cy