³ÉÈË´óƬ

Lleoedd gwag llywodraethwyr awdurdod lleol

Oes gennych chi ddiddordeb mewn gwella addysg plant ym Mlaenau Gwent?

Allwch chi ymrwymo i fynychu cyfarfodydd rheolaidd a dilyn hyfforddiant?

Yna rydym eich angen fel llywodraethwr ysgol Awdurdod Lleol.

Rydym yn edrych am bobl sydd â'r sgiliau i'n helpu yn ein taith o wella safonau addysg ym Mlaenau Gwent. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o addysg, mae croeso neilltuol i ymgeiswyr gyda phrofiad mewn busnes, adnoddau dynol, cyllid a dadansoddi data. Darperir ystod gynhwysfawr o hyfforddiant a chefnogaeth. Mae'n gyfle cyffrous i chi:

• ennill sgiliau newydd;

• cymryd rhan mewn gwaith tîm;

• cyfrannu at y gymuned;

• gwneud gwahaniaeth i fywydau plant.

Mae gennym leoedd gwag yn yr ysgolion dilynol:

Enw'r YsgolLleoedd Gwag
Ysgol Gynradd Rhiw Beaufort      1
Ysgol Gynradd Blaenycwm      1
Ysgol Gynradd Coedygarn      1
Ysgol Gynrdd Deighton      2
Ysgol Gynradd Georgetown      1
Ysgol Gynradd Rhosyfedwen      2
Ysgol Gynradd Sofrydd      1
Ysgol Gymraeg Brohelyg      1
Cymuned Ddysgu Ebwy Fawr       1
Ysgol Arbennig Penycwm      1

I gael mwy o wybodaeth a ffurflen gais, cysylltwch â:

Julie Parry yn Cefnogaeth Llywodraethwyr, Gwasanaeth Cyflawni Addysg, Tŷ Tredomen, Parc Tredomen, Ystrad Mynach, Hengoed, CF82 7PG. Ffôn: 01443-863242 neu E-bost: Julie.parry@sewaleseas.org.uk

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi eu cwblhau yw dydd Gwener 16 Mehefin 2017 am ganol-dydd.