成人大片

Mae gan Jack ddyfodol disglair gyda Express Contract Drying

Ymunodd Jack Hayman o Blaenau ag Express Contract Drying (EDC) fel Prentis Beiriannydd Mecanyddol yn gweithio yn Stad Ddiwydiannol Rasa ym mis Gorffennaf 2018. Fe wnaeth hyn ei alluogi i barhau gyda鈥檌 astudiaethau coleg a chwblhau ei BTEC Lefel 2 mewn Gwaith Trydanol ac Electronig ac, yn fwy, diweddar, BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Fecanyddol. Roedd y cwmni mor falch o鈥檌 agwedd gadarnhaol at waith a鈥檌 ymroddiad i astudio fel eu bod yn awr wedi ei gyflogi鈥檔 llawn-amser.

Drwy gydol y brentisiaeth, datblygodd Jack set sgiliau rhagorol ac adeiladu portffolio cryf o brofiadau yn cynnwys gweithio ar brosiectau byw i amserlenni penodol, ac mae鈥檔 credu i hynny arwain at swydd barhaol yn EDC. Fe wnaeth y cwmni gefnogi Jack ar hyd y broses, gan annog ei addysg a hefyd ei helpu i gwblhau cymwysterau ategol megis cymhwyster mewn weldio.

Bu Anelu鈥檔 Uchel Blaenau Gwent, a drefnodd y Brentisiaeth, yno iddo drwy鈥檙 amser a dywedodd Jack:

鈥淢ae Anelu鈥檔 Uchel fel t卯m o unigolion talentog a chyfeillgar wedi rhoi cymaint o hwb i fy ngyrfa. Er y gall y syniad o fynd i fyd gwaith godi ofn ar lawer o bobl, fy mhrofiad i yw pontio llyfn diolch i sut mae Anelu鈥檔 Uchel wedi鈥檌 drin. B没m yn ffodus iawn i gael y cyfle hwn ac mae pobl fel Julie Robins (Mentor Anelu鈥檔 Uchel) wedi bod yno ar ben arall y ff么n neu neges i ddatrys fy mhroblemau. Pan oedd gen i broblemau nad oedd tiwtoriaid yn y Coleg neu waith yn fynd ar goll, cafodd ei ddatrys yn gyflym ac mewn modd proffesiynol felly diolch am hynny. Hefyd am yr ymarferion adeiladu t卯m, maent yn llaewr iawn o hwyl ac mae鈥檔 braf cwrdd gyda phobl eraill o鈥檙 un anian.

Rwy鈥檔 credu fod y rhaglen yn effeithol iawn ac i鈥檙 dim ar gyfer ein cymuned a seilwaith lleol. Efallai ryw ddydd y bydd gennyf fy mhrentis fy hun fydd yn dilyn yr un daith ag a wnes i鈥.

Mae鈥檙 cynllun Prentisiaeth yn wirioneddol wedi gweithio i Jack fel canlyniad o roi popeth i鈥檞 waith a goresgyn nifer o broblemau personol. Mae cyfuniad o adroddiadau rhagorol gan y coleg a thasgau bywyd go iawn mewn ffatri weithredol wedi ei helpu i gyflawni ei botensial gyrfa. Ar un cam fe wnaeth hyd yn oed gymryd yr awenau a chynllunio bwrdd i gynorthwyo cynhyrchu, a fu鈥檔 llwyddiannus iawn. Gwnaeth ansawdd a maint gwaith Jack argraff fawr iawn ar ei Asesydd NVQ.

Oherwydd ymrwymiad Jack drwy gydol ei brentisiaeth cafodd ei enwebu ar gyfer categori 鈥楽eren Newydd鈥 yng Ngwobrau Uchel Anelu鈥檔 Uchel. Er bod cystadleuaeth frwd o fewn y gr诺p, cyflwynodd y beirniaid y teitl iddo gan gydnabod ei waith caled a鈥檌 botensial ar gyfer y dyfodol. Yn dilyn y llwyddiant hwnnw, mae Jack yn ddiweddar wedi cael ei gyflogi yn EDC.

Mae pawb yn credu fod gan Jack ddyfodol disglair gyda EDC ac mae wedi profi鈥檔 ased wirioneddol iddyn nhw a hefyd i raglen Rhannu Prentisiaeth Anelu鈥檔 Uchel Blaenau Gwent.