³ÉÈË´óƬ

Mae pob pleidlais yn cyfrif tuag at ddyfodol Cymru

Mae ymgyrch genedlaethol wedi’i lansio er mwyn annog pobl ifanc 16-17 oed a gwladolion tramor cymwys i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiadau lleol ym mis Mai 2022. Mae hyn er mwyn sicrhau bod holl bleidleiswyr cymwys yn manteisio ar y cyfle i gael dweud eu dweud, ac i wneud gwahaniaeth ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol.

Nod yr ymgyrch yw ysbrydoli ac annog pobl ifanc 16-17 oed a gwladolion tramor cymwys yng Nghymru yn benodol i gofrestru erbyn 14 Ebrill ac yna phleidleisio ar 5 Mai.

Gyda’r angen i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc Cymru yn cael eu clywed, dangosodd ymchwil gan Lywodraeth Cymru fod y rhai hynny y mae pleidleisio yn newydd iddynt yn wynebu rhwystrau cymdeithasol a logistaidd. Mae’r ymgyrch hon yn anelu at fynd i’r afael â’r rhwystrau hynny yn weithredol er mwyn sicrhau bod nifer cadarnhaol o unigolion yn cofrestru a phleidleisio yn 2022.

Dywedodd Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad:

“Mae hon yn ymgyrch hynod o bwysig, sy’n cael ei lansio ar adeg lle y mae llawer o ffocws ar wleidyddiaeth. Mae’n hanfodol ein bod yn meithrin cysylltiadau â’n holl bleidleiswyr newydd, yn ogystal â sicrhau ein bod yn dileu unrhyw rwystrau er mwyn eu galluogi i wybod pa mor bwysig yw eu llais a chymaint o wahaniaeth y bydd hynny yn ei wneud.

“Mae gennym genhedlaeth o bleidleiswyr newydd a ddylai allu arfer eu hawl yn ogystal â manteisio ar y cyfle i wneud gwahaniaeth y flwyddyn hon ac yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Mae hon yn genhedlaeth o unigolion sy’n ymwybodol o’r hinsawdd, sy’n ymwybodol yn gymdeithasol ac sy’n poeni am eu dyfodol a’u gyrfaoedd. Yn sicr, dyma’r lleisiau a allai wneud gwahaniaeth ym mis Mai.

“Rydyn ni eisiau sicrhau bod pob grŵp cymwys yn deall y gallai eu pleidleisiau wneud gwahaniaeth. Rydyn ni hefyd eisiau iddynt ddeall sut y gallant rannu barn am faterion sy’n effeithio arnynt, yn ogystal â sut y gallant gefnogi eu hardaloedd a’u cymunedau lleol drwy gofrestru a mynd ati i bleidleisio.â€

Gan ganolbwyntio ar hygyrchedd, hwylustod a’r effaith o bleidleisio, bydd yr ymgyrch Gallaf mi allaf yn canolbwyntio ar sicrhau bod pleidleiswyr yn ymwybodol o’r camau ynglŷn â sut i gofrestru i bleidleisio, yn ogystal â’r hyn y gallai’r bleidlais honno ei olygu i’w cymunedau a’u hardaloedd lleol.

Mae Steffan, sy’n 17 oed ac yn byw ym Mhrestatyn, yn un o sêr yr ymgyrch, ac yn ymddangos mewn ffilmiau byr a fydd yn cael eu gweld ledled y wlad er mwyn annog pobl ifanc i bleidleisio:

“Mae gan bawb eu barn eu hunain, ac felly mae’n bwysig mynegi’r farn hon drwy bleidleisio yn eich etholiadau lleol.

“Mae pleidleisio’n rhoi’r cyfle i chi gael effaith ar sut mae eich ardal leol yn cael ei rhedeg, gan roi rheolaeth i chi dros sut mae arian yn cael ei wario ar faterion sy’n bwysig i chi.

“Rwy’n annog pob person ifanc yn gryf i bleidleisio, gan nad yw ein barn yn aml yn cyd-fynd â barn y cenedlaethau hÅ·n.â€

Yn serennu hefyd yn yr ymgyrch y mae Zaneta, sy’n wreiddiol o wlad Pwyl ond bellach yn byw yng Nghymru, sy’n cefnogi’r galw i fwy o bobl sydd wedi dod i fyw i Gymru o dramor, i gofrestru i bleidleisio:

“Fel un o dramor sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru rwy’n credu ei bod yn bwysig i ni fod yn rhan o’r gymdeithas, ac mae pleidleisio yn gyfle i ni gael llais ar faterion sy’n effeithio arnon ni’n uniongyrchol.

“Pleidleisio yw ein cyfle i sefyll dros y materion sy’n bwysig i ni. Os na fyddwn yn pleidleisio, bydd rhywun arall yn gwneud y penderfyniad ar ein rhan ar sut y caiff ein trethi eu defnyddio, materion sy’n effeithio ar ddyfodol y gymuned, a’r ansawdd bywyd rydyn ni ei eisiau i’n hunain a chenedlaethau’r dyfodol.

“Os ydych chi o dramor a bellach yn byw yng Nghymru gallwch nawr bleidleisio yn yr etholiadau lleol.

Rwy’n eich annog i ddefnyddio’r bleidlais honno, gan mai mewn undod mae nerth a bydd ein llais yn cael ei glywed.â€

Yn rhan o’r ymgyrch, bydd Diwrnod Cofrestru Pleidleiswyr yn cael ei gynnal ledled Cymru ar ddydd Iau 24 Mawrth. Bydd ffigurau blaenllaw, llyfrgelloedd, cymunedau, ysgolion a cholegau Cymru yn dod at ei gilydd er mwyn hyrwyddo’r neges allweddol o gofrestru i bleidleisio gan wneud gwahaniaeth i ddyfodol Cymru.

I gofrestru i bleidleisio ewch i:Ìý