˴Ƭ

Mae safonau ansawdd bysiau’n ennil yng ngwobrau trafnidiaeth genedlaethol Cymru

A hwythau dan arweiniad Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth Cymru, y gwobrau yw’r unig gynllun i ddathlu cyflawniadau sector trafnidiaeth a logisteg Cymru, gan wobrwyo arloesedd ac arferion gorau a ganfuwyd mewn busnesau preifat, cyrff y sector cyhoeddus, a’r cyflawniadau a wnaed gan unigolion yn y diwydiant.

Enillodd Bwrdd Prosiectau Cyllido Bysiau De-ddwyrain Cymru Wobr Menter Cludiant Teithwyr, a gyflwynwyd gan Ken Skates, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros yr Economi a’r Seilwaith.  Y cynllun buddugol, sef partneriaeth rhwng 10 awdurdod lleol a gweithredwyr yn ne-ddwyrain Cymru, yw’r cyntaf yng Nghymru i fod wedi cysylltu talu Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau â darparu safonau o ansawdd a gynlluniwyd i wella rhwydwaith a gwasanaeth bysiau’r rhanbarth.   

Mae’r cynllun arloesol yn golygu taliad ariannol ar gyfer pob un gwasanaeth yn seiliedig ar y safon y mae’n eu cyflawni.  Dechreuodd gydag asesiad llawn o’r gwasanaeth bysiau drwy arolygon teithwyr, gan adolygu elfennau, yn cynnwys oed y cerbyd, lefel ei allyriadau a chyfarpar cyrraedd cyrchfan, y defnydd o beiriannau tocynnau sy’n cydymffurfio ag ITSO a chyfranogiad o gynlluniau tocynnu cenedlaethol, lifrai gyrwyr a’u hymwybyddiaeth o anabledd, polisi cwynion ac argaeledd gwybodaeth am y gwasanaeth.  Dyfarnwyd safon efydd, arian neu aur i bob cwmni bysiau, gan gael taliad wrth y cilometr, oedd yn adlewyrchu’r safon, gyda’r cyfle i wella dros amser.  

Dywedodd y Dr Andrew Potter, Cadeirydd Sefydliad Siartredig Logisteg a Thrafnidiaeth Cymru: “Gallai Bwrdd Prosiectau Cyllido Bysiau De-ddwyrain Cymru fod wedi dewis datrysiad hawdd ond dewisodd weithio tuag at oresgyn gwir heriau drwy ddull ‘o’r brig i lawr’.  Gan ymgorffori barn llawer o randdeiliaid, nid oedd arnynt ofn oedi tan iddynt ei gael yn gywir, ac fe’u gwobrwywyd â llwyddiant.  Mae’n batrymlun y gellid ei ddefnyddio ledled Cymru ac mae’n enillydd teilwng o Wobr Trafnidiaeth Genedlaethol Cymru.”   

Dywedodd Charlie Nelson, Cadeirydd Bwrdd Prosiectau Cyllido Bysiau De-ddwyrain Cymru a Rheolwr Trafnidiaeth yng Nghyngor Rhondda Cynon Taf: “Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y prosiect am eu cefnogaeth.  Ni fyddai’r wobr hon wedi’i hennill heb ymglymiad yr awdurdodau lleol, y cwmnïau bysiau a rhanddeiliaid eraill yn ne-ddwyrain Cymru, a weithiodd gyda’i gilydd i gyd mewn partneriaeth i ganfod, i gytuno ar ac i ddarparu nifer o fuddion pendant i deithwyr sydd, yn ystod y 18 mis diwethaf, wedi galluogi codi safonau’n gynyddrannol.”