成人大片

Neges gan Arweinydd y Cyngor, Nigel Daniels

Neges gan Arweinydd y Cyngor, Nigel Daniels

At breswylwyr Blaenau Gwent

Heddiw (12 Mawrth) rhoddodd Prif Weinidog Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyda Coronafeirws ar draws Cymru, gan amlinellu鈥檙 llacio cyfyngiadau y gallwn ei ddisgwyl dros yr ychydig wythnosau nesaf a鈥檙 gwasanaethau a busnesau fydd yn dechrau ail-agor yn raddol.
Cyn s么n am yr wybodaeth ddiweddaraf honno, hoffwn yn gyntaf ddiolch i鈥檔 preswylwyr yma ym Mlaenau Gwent am eu gwaith caled a鈥檜 hymroddiad yn cadw at y rheolau ac am helpu i ostwng achosion COVID-19 yn ein cymunedau.

Aethom o fod 芒鈥檙 rhai o鈥檙 cyfraddau gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan i rai o鈥檙 isaf, a bu gennych ran bwysig mewn gwneud i hynny ddigwydd. Drwy gydweithio, rydym wedi gwneud gwahaniaeth go iawn gan roi lle yn awr i鈥檙 Llywodraeth baratoi鈥檙 ffordd yn ofalus allan o鈥檙 hyn fydd gobeithio ein cyfnod clo olaf.
Mae pawb ohonom wedi aberthu dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi colli achlysuron teuluol a digwyddiadau bywyd na fedrwn byth eu cael yn 么l, ond gwnaethom hynny i ddiogelu ein preswylwyr bregus, i achub bywydau ac i ddiogelu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Y newidiadau pwysicaf a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog heddiw oedd:

鈥 Caiff y gofyniad 鈥淎rhoswch Gartref鈥 ei godi o 13 Mawrth, gyda neges 鈥淎rhoswch yn Lleol鈥 yn lle hynny.

鈥 O 13 Mawrth, gall pedwar o bobl o ddwy aelwyd gyfarfod yn yr awyr agored i gymdeithasu, gan gynnwys mewn gerddi. Hefyd, gall cyfleusterau chwaraeon awyr agored, gan gynnwys cyrtiau p锚l-fasged, cyrtiau tennis a chyrsiau golff, ailagor.

鈥 Gall ymweliadau i gartrefi gofal ailddechrau ar gyfer un ymwelydd dynodedig. Fel awdurdodau lleol ledled Gwent, rydym yn glir mai dim ond pan mae鈥檙 cartrefi wedi paratoi鈥檔 llawn ac yn barod ar gyfer ymweliadau diogel y gall hyn ddigwydd.

鈥 O 15 Mawrth bydd pob disgybl cynradd a disgyblion sy鈥檔 astudio ar gyfer cymwysterau yn cael dychwelyd i鈥檙 ysgol. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddod 芒 disgyblion blwyddyn 10 a blwyddyn 12 yn 么支l a bydd mwy o ddysgwyr yn dychwelyd i golegau. Bydd hyblygrwydd hefyd i ysgolion gynnal sesiynau ailgydio ar gyfer pob disgybl arall. Bydd pob dysgwr yn dychwelyd ar 么l gwyliau鈥檙 Pasg.

鈥 Gall siopau trin gwallt a siopau barbwr ailagor o ddydd Llun.

鈥 O 22 Mawrth ymlaen bydd siopau nad ydynt yn hanfodol yn dechrau ailagor yn raddol wrth i鈥檙 cyfyngiadau gael eu codi ar yr hyn y gellir ei werthu yn y siopau sydd ar agor ar hyn o bryd. Gall canolfannau garddio ailagor hefyd. Gall pob siop, yn cynnwys gwasanaethau cyswllt agos, agor o 12 Ebrill.

Mae hon yn ffordd gadarnhaol ymlaen, ond gadewch i bawb ohonom barhau i ymddwyn yn ofalus dros yr ychydig wythnosau nesaf i sicrhau y gallwn ddod allan o鈥檙 argyfwng hwn yn y ffordd a nodwyd.

Wrth gwrs mae鈥檔 rhaid i ni siarad am ymestyn y brechlyn, sydd yn wirioneddol yn stori newyddion ragorol. Cefais fy mrechlyn i yng Nglynebwy, ac roedd yn brofiad rhwydd a threfnus iawn. Roedd yn galonogol iawn bod yn yr ystafell honno gyda phobl eraill yn derbyn eu brechlyn, ac mae鈥檔 ysbrydoliaeth fod dros filiwn o bobl wedi cael cynnig dos cyntaf erbyn hyn. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran am eu gwaith, yn staff iechyd a hefyd wirfoddolwyr gwych i ymestyn y brechlynnau鈥檔 gyflym ac yn ddiogel er mwyn diogelu ein pobl fwyaf bregus. Da iawn chi bawb!

Fel y nodwyd uchod, cadarnhawyd heddiw y bydd mwy o ddisgyblion yn dychwelyd i addysgu wyneb-i-wyneb o鈥檙 wythnos nesaf ymlaen. Bu ein dysgwyr ieuengaf (Cyfnod Sylfaen) yn 么l yn yr ystafell ddosbarth am ddwy wythnos, a bydd gweddill disgyblion ysgolion Cynradd a dysgwyr Blwyddyn 11 Uwchradd yn ymuno 芒 nhw yn fuan. Bydd hefyd rai trefniadau 鈥榓ilgydio鈥 ar gyfer pob gr诺p arall cyn gwyliau鈥檙 Pasg.

Rydym yn falch yr ystyrir ei bod yn amser cywir i groesawu mwy o ddysgwyr yn 么l, mae鈥檔 bwysig i鈥檔 plant a phobl ifanc fod yn yr ysgol ar gyfer eu hanghenion addysgol a hefyd eu lles emosiynol a chorfforol. Mae ein hysgolion yn parhau i weithio鈥檔 galed gyda chydweithwyr yn y Cyngor i gynnal yr holl fesurau diogelwch perthnasol, ond rwyf hefyd yn galw ar rieni a gofalwyr i chwarae eu rhan drwy feddwl yn ofalus am eu hymddygiad tu allan i鈥檙 ysgol a sut y gallai hyn effeithio ar drosglwyddo鈥檙 feirws. Gadewch i ni weithio gyda鈥檔 gilydd i gadw addysg yn ddiogel, a鈥檔 hysgolion a cholegau ar agor.

Hoffwn s么n yn fyr am Gyllideb y Cyngor ar gyfer 2021/22, a gymeradwywyd yn ddiweddar gan y Cyngor Llawn. Rydym wedi medru gosod Cyllideb sy鈥檔 diogelu gwasanaethau rheng flaen allweddol yn awr, ond sydd hefyd yn ein helpu i gynllunio ar gyfer dyfodol cynaliadwy wrth i ni gael adferiad o ofynion delio gyda鈥檙 Pandemig. Mae鈥檙 Gyllideb yn dangos ein hymrwymiad i ddiogelu a gwella gwasanaethau ac rydym wedi gwrando ar eich blaenoriaethau yn ein harolwg cyhoeddus drwy ddarparu dros 拢3m o gyllid ychwanegol ar gyfer Ysgolion a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal 芒 chynllunio buddsoddiad mewn prosiectau Amgylcheddol, megis gwelliannau i briffyrdd.

Bydd y Gyllideb yn ein helpu i adeiladu cydnerthedd ariannol ar gyfer y gofynion fydd yn ddi-os yn wynebu llywodraeth leol ym mlynyddoedd y dyfodol.

Rydym yn agos谩u鈥檔 gyflym at ben-blwydd dechrau鈥檙 cyfnod clo cyntaf ac felly ar 23 Mawrth bydd y Cyngor yn ymuno 芒 sefydliadau ym mhob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig i nodi鈥檙 dyddiad hwn. Byddwn yn goleuo un o鈥檔 hadeiladau 鈥 y Swyddfeydd Cyffredinol 鈥 mewn melyn i gofio pawb a gollwyd i鈥檙 feirws ofnadwy yma. Mae鈥檙 adeilad yn ddewis addas, oherwydd fel canolfan frechu mae hefyd yn fegwn gobaith ar gyfer amser hapusach a llawer gwell i ddod.

Yn olaf, a gaf ofyn i chi barhau i gadw golwg ar eich gilydd. Cofiwch, os ydych yn cael trafferthion ac nad oes gennych unrhyw gefnogaeth, neu os ydych yn bryderus am rywun sy鈥檔 byw yn eich cymuned, peidiwch ag oedi rhag cysylltu 芒 ni ar 01495 311556.

Gadewch i ni ddal ati i gydweithio er mwyn #DiogeluCymru.

Diolch.

Cynghorydd Nigel Daniels
Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

鈥 Defnyddir ap COVID-19 wrth ochr dulliau olrhain cysylltiadau traddodiadol i hysbysu defnyddwyr os ydynt yn dod i gysylltiad gyda rhywun sydd wedyn yn cael prawf cadarnhaol am coronafeirws. Gallwch lawrlwytho ap COVID-19 y GIG o鈥檙 App Store neu Google Play Store. Mae mwy o wybodaeth ar ap COVID-19 y GIG ar gael yn www.covid19.nhs.uk

鈥 I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar wasanaethau鈥檙 cyngor ewch i -  /en/resident/emergencies-crime-prevention/coronavirus-covid-19-latest-information/

鈥 Dilynwch ni ar:

Facebook 鈥 @blaenaugwentcbc
Twitter -  @BlaenauGwentCBC

鈥 Mae鈥檙 cyngor a鈥檙 arweiniad diweddaraf ar gael yma:

https://phw.nhs.wales/
https://llyw.cymru/
https://www.gov.uk/