³ÉÈË´óƬ

Rhybudd i rai sy'n tipio'n anghyfreithlon - mae erlyniadau'n parhau

Hyd yma eleni cafodd 11 achos eu herlyn yn llwyddiannus. Mae'r rhain yn ymwneud â nifer o droseddau dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990. Mae canlyniadau erlyniad wedi arwain at i lysoedd orchymyn unigolion sy'n tipio'n anghyfreithlon i dalu dirwyon a chostau.

Dywedodd y Cyng Haydn Trollope, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae tipio anghyfreithlon yn hagru ac yn llygru ein hamgylchedd ac nid oes dim esgus dros wneud hynny'n wybyddus. Yn ogystal â bod yn broblem wrthgymdeithasol a pheryglus, mae'n costio miloedd o bunnau bob blwyddyn i'w glirio. Mae hyn yn arian y gellid ei wario ar ddarparu gwasanaethau eraill yn yr ardal. 

“Bydd Cyngor Blaenau Gwent yn ymchwilio pob cwyn yn llawn gyda swyddog gorfodaeth profiadol a hyfforddwyd yn llawn ac os deuwn o hyd i ddigon o dystiolaeth i alluogi erlyniad, rydym yn gwneud hynny. Rydym hefyd yn rhagweithiol iawn gyda goruchwyliaeth teledu cylch cyfyng i dargedu pobl sy'n tipio'n anghyfreithlon. .“Rydym eisoes wedi erlyn nifer o bobl yn llwyddiannus eleni a byddwn yn parhau i wneud hyn er mwyn sicrhau y caiff ein hamgylchedd ei gadw'n lân ar gyfer ein cymunedau a hefyd bobl sy'n ymweld â'r ardal.

“Rydym hefyd yn cynghori pobl i fod yn ofalus pwy maent yn eu comisiynu i fynd â'u gwastraff ymaith gan y gellir eu herlyn os buont yn esgeulus drwy beidio gwirio hynny.

“Os oes gennych unrhyw bryderon am dipio anghyfreithlon neu'n dymuno gwneud adroddiad am ymddygiad o'r fath, cysylltwch gyda'r Cyngor drwy ffonio 01495 311556 os gwelwch yn dda.â€