³ÉÈË´óƬ

STOP means STOP - Road Safety Wales

Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru a Cyngor Blaenau Gwent yn atgoffa gyrwyr am eu cyfrifoldebau wrth ddod at Hebryngwyr Croesfannau Ysgol.

 

Mae Hebryngwyr Croesfannau Ysgol yn rhan annatod o'r gymuned mewn llawer rhan o Gymru; yn aml maen nhw wedi cynorthwyo plant, a hyd yn oed wyrion ac wyresau, y rhai oedd yn yr un ysgol flynyddoedd lawer yn ôl. Maen nhw'n wyneb cyfeillgar sydd bob amser yn ein cyfarch wrth gyrraedd yr ysgol ac yn ffarwelio â ni wrth inni droi am adre.

Maen nhw’n aelodau ymroddgar a gwerthfawr iawn o gymuned yr ysgol a'r gymuned ehangach sy'n troi allan, er gwaethaf y tywydd, i'n cadw ni i gyd yn ddiogel wrth groesi'r ffordd.

Diolch byth, mae'r mwyafrif o fodurwyr yn parchu’r gyfraith ac yn gwrtais, gan stopio pan fo’r arwydd yn dweud wrthyn nhw. Ond mae'n hanfodol bod gyrwyr a reidwyr yn cydymffurfio â'r gyfraith i wella diogelwch ar y ffyrdd o amgylch ysgolion.

Mae'n hanfodol bod modurwyr yn deall bod y gyfraith yn dweud bod rhaid ufuddhau i’r arwyddion sy’n cael eu rhoi gan Hebryngwr Croesfan Ysgol. Cyn gynted ag y bydd yr Hebryngwr yn codi ei arwydd, hyd yn oed os nad yw wedi camu i'r ffordd, rhaid i fodurwyr fod yn barod i stopio.

Unwaith y bydd Hebryngwr ar y gerbytffordd ac yn dangos yr arwydd ar i fyny, mae’n RHAID i’r traffig stopio a pheidio â mynd ymlaen nes bod y cerddwyr wedi gorffen croesi'r ffordd a bod yr Hebryngwr wedi dychwelyd i'r palmant.

Yn anffodus, mae Hebryngwyr ledled y wlad wedi bod yn wynebu sarhad ar lafar, bygythiadau a pherygl am fod cerbydau’n symud, a hynny am wneud eu gwaith. Mae achosion o ymddygiad bygythiol neu beryglus nid yn unig yn effeithio ar Hebryngwyr, ond mae pob defnyddiwr arall ar y ffordd yn wynebu risg ddiangen.

Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: "Does dim esgus dros fethu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau'r Hebryngwr. P'un a ydych chi'n hwyr neu heb sylweddoli bod RHAID ichi stopio, mae gennych chi gyfrifoldeb, yn gyfreithiol ac yn foesol, i osgoi creu risg i ddefnyddwyr eraill y ffordd.

"Dylai pob plentyn a'i warcheidwad yng Nghymru fod yn ddiogel wrth groesi'r ffordd i'r ysgol."

Dywedodd Wayne Tucker, Swyddog Diogelwch Ffyrdd Heddlu De Cymru: "Os bydd gyrrwr yn methu stopio’i gerbyd ar bellter diogel o'r Hebryngwr Croesfan Ysgol, neu os bydd yn dechrau symud i ffwrdd tra bo’r arwydd STOP yn cael ei ddangos, mae’n gallu cael dirwy o hyd at £1,000 a 3 phwynt cosb ar ei drwydded yrru.

"Mae'r rheolau a'r canllawiau yn Rheolau’r Ffordd Fawr yn bodoli i ddiogelu holl ddefnyddwyr y ffordd, ac yn yr achos hwn plant a'u gofalwyr yn arbennig. Mae cydymffurfio yn hanfodol er mwyn atal anafiadau ar y ffyrdd.â€

Anogir y rhai sy'n dyst i ddigwyddiad neu sy'n rhan o ddigwyddiad i'w riportio i'r Heddlu ar 101, neu 999 mewn argyfwng. Gallwch gyflwyno fideos neu luniau ffotograffig hefyd i GanBwyll trwy Ymgyrch SNAP. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i .