³ÉÈË´óƬ

Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal Blaenau Gwent yn mynd yn groes i’r duedd

Cafodd Stategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal Blaenau Gwent i ostwng yn ddiogel y nifer o blant sydd yn derbyn gofal ei gweithredu yn 2017. Roedd hyn mewn ymateb i’r nifer cynyddol o blant oedd yn mynd i’r systemau gofal bryd hynny. Cafodd y dull gweithredu ei werthuso, ei ddiwygio a’i ail-lansio fel strategaeth pum mlynedd yn 2020.

Dangosodd adborth diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru fod strategaeth Blaenau Gwent yn effeithlon iawn er mwyn gostwng y nifer o blant sy’n dod i ofal yn raddol ac yn ddiogel.

Mae hyn yn digwydd ar yr un amser â bod llawer o awdurdodau eraill yn parhau i weld cynnydd ac mae dull gweithredu Blaenau Gwent yn mynd yn groes i’r tueddiad o gynnydd yn y niferoedd.

Dywedodd y Cyng John Mason, Aelod Gweithredol Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Mae’n wych gweld fod ein Strategaeth Gostwng yn Ddiogel y Nifer o Blant sy’n Derbyn Gofal wedi ei gydnabod yn gadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae hyn yn wir ganmoliaeth. Mae’n galonogol gweld y cynnydd a wnaed y dull gweithredu hwn wrth ostwng nifer y plant sy’n ymuno â’r system gofal.â€

Mae’r strategaeth yn canolbwyntio ar atal, rheoli risg hyderus ac opsiynau lleoliad ansawdd uchel ac mae wedi ennill ei blwyf ar draws yr holl adran. Nodwyd bod ymroddiad ac ymgysylltiad y  gweithlu yn elfen allweddol o lwyddiant.