³ÉÈË´óƬ

Credyd Cynhwysol

Felly, beth yw Credyd Cynhwysol? Mae’n daliad misol sengl i helpu gyda’ch costau byw ac mae’n darparu cymorth os ydych yn gweithio ac ar incwm isel neu’n chwilio am waith.

Efallai y bydd symud i Gredyd Cynhwysol yn teimlo fel newid mawr ond peidiwch â phoeni, cewch fwy o wybodaeth ar y wefan hon i’ch helpu i reoli’ch symud.

Mae’r budd-daliadau a’r credydau treth canlynol yn dod i ben ac yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol:

  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)

Cadwch lygad allan am lythyr yn y post gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a fydd yn gofyn i chi symud i Gredyd Cynhwysol. Fe’i gelwir yn ‘Hysbysiad Trosglwyddo i Gredyd Cynhwysol’ a bydd yn esbonio beth bydd angen i chi ei wneud a phryd. .

Pan fyddwch yn derbyn eich llythyr, mae’n bwysig eich bod yn gwirio’r dyddiad y bydd angen i chi wneud cais gan na fyddwch yn cael eich symud yn awtomatig. Peidiwch â phoeni, bydd eich llythyr yn rhoi cyfarwyddiadau i chi eu dilyn. Yn y cyfamser, gallwch ddechrau .

Darganfyddwch .

Bydd eich budd-daliadau presennol yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn cyflwyno eich cais am Gredyd Cynhwysol. Ni fyddwch yn gallu dychwelyd i’ch budd-dal presennol unwaith y byddwch wedi gwneud cais. Darganfyddwch am y 

Cysylltwch â’r llinell gymorth Symud i Gredyd Cynhwysol (0800 169 0328)

Ffoniwch y rhif ffôn yn eich llythyr Hysbysiad Trosglwyddo os oes gennych gwestiwn am wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu os nad ydych yn gallu mynd ar-lein.

Am fwy o wybodaeth am drosglwyddo i Gredyd Cynhwysol a phwy i gysylltu â nhw, ewch i ucmove.campaign.gov.uk/cy/ 

Canolfannau Cymunedol

Bydd Canolfannau Cymunedol yn cynnig y canlynol:

  • Cyngor ar sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol -  arwyddion cywir i gwsmeriaid.
  • Cyfeirio cwsmeriaid at sefydliadau trydydd parti a all ddarparu cymorth bwyd a tanwydd.
  • Darparu cyngor cyllideb neu gyfeirio at sefydliad trydydd parti sy'n darparu'r gwasanaeth hwn hefyd.
  • Rhoi tocynnau bwyd a tanwydd i gwsmeriaid mewn angen.
  • Cysylltwch â'r Adran Treth y Cyngor a/neu Gymdeithasau Tai os yw cwsmeriaid yn cael trafferth i gyflawni eu taliadau.

                /cy/preswylwyr/hybiau-cymunedol-blaenau-gwent/

Gwybodaeth Gyswllt

Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: Info@blaenau-gwent.gov.uk