³ÉÈË´óƬ

Help gyda biliau ynni

Rydych yn gymwys os ydych yn derbyn elfen credyd Gwarant y Credyd Pensiwn neu’ch bod ar incwm isel ac yn ateb meini prawf eich cyflenwr ar gyfer y cynllun.

Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1956 gallech gael rhwng £250 a £600 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi.

Ni fydd angen i chi hawlio eto os ydych wedi cael taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen.

Taliad Tywydd Oer

Gallech gael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn derbyn

Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael y taliadau hyn yn awtomatig. Nid oes angen i chi wneud cais, ond gall fod angen i chi Ìý

Nid yw’r taliadau hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.

Byddwch yn cael taliad os caiff y tymheredd cyfartalog yn eich ardal ei gofnodi fel, neu y rhagwelir y bydd yn, sero gradd Celsius neu is ar 7 diwrnod olynol.

Byddwch yn cael £25 am bob cyfnod 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd 2023 a 31 Mawrth 2024.

I gael mwy o wybodaeth ewch i Ìý

Grant £200 i gyn Lowyr

Mae cyn lowyr yn gymwys am grant o £200 i helpu gyda’r cynnydd mewn costau ynni.

Daw’r grant drwy Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo (CISWO).

I ganfod mwy am y grant, cysylltwch â swyddfa CISWO Cymru drwy ffonio 01443 485233 neu anfon e-bost at wales@ciswo.org.uk

Cymorth Cyflenwyr Ynni

Efallai y gall cwsmeriaid sydd mewn dyled i’w cyflenwr ynni gael help i’w dalu. Fodd bynnag, mae llawer o’r cyflenwyr ynni angen i chi ofyn am gyngor i ddechrau gan elusen gydnabyddedig ar gyngor dyledion.

Mae’r cyflenwyr ynni a chyfleustodau dilynol yn cynnig grantiau i’w cwsmeriaid:

  • Grant Cymorth Ynni Nwy Prydain
  • Cronfa Cwsmeriaid Ynni EDF
  • Cronfa Ynni E.ON
  • Cronfa Ynni Nesaf E.ON
  • ‘Cronfa Octo Assist’ Octopus
  • Cronfa Ynni Ovo
  • Cronfa Caledi Scottish Power
  • Gwasanaethau Blaenoriaeth Western Power Distribution

I gael cefnogaeth, cyngor neu help ychwanegol ewch i Ìý

Cronfa Cymorth ar Ddisgresiwn

Mae’r Gronfa Cymorth ar Ddisgresiwn yn darparu 2 fath o grant nad oes angen i chi ei ad-dalu.

Taliad Cymorth Argyfwng (EAP)

Grant i helpu talu am gostau hanfodol tebyg i fwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio argyfwng os:

  • ydych yn profi caledi ariannol difrifol
  • wedi colli eich swydd
  • wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf

Ni allwch ei ddefnyddio i talu am filiau cyfredol na fedrwch fforddio eu talu.

Taliad Cymorth Unigol (IAP)

Grant i’ch helpu chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdanynt i fyw’n annibynnol yn eu cartref neu eiddo yr ydych chi neu nhw yn symud iddo.

Ar gyfer beth y gallwch ddefnyddio’r grant:

Defnyddiwch y grant i dalu am:

  • oergell, ffwrn neu beiriant golchi a ‘nwyddau gwyn’ eraill
  • celfi cartref tebyg i welyau, soffas a chadeiriau

I gael mwy o wybodaeth ar gymhwyster a sut i wneud cais, ewch i Ìý

Ìý

Cymru Gynnes

Cefnogaeth a chyngor i unrhyw un sy’n edrych am wybodaeth neu help gydag ymholiadau ynni cartref:

Nyth Cymru

Mae Nyth Cymru yn darparu gwelliannau effeithiolrwydd ynni cartref am ddim tebyg i foeler newydd, gwres canolog neu insiwleiddia ar gyfer preswylwyr cymwys. Ewch i neu ffonio 0808 808 2244.