łÉÈËŽóÆŹ

Apeliadau Cynllunio

Os ydych yn anfodlon gyda phenderfyniad y Cyngor ar eich cais cynllunio efallai y gallwch apelio i Arolygiaeth Cynllunio Llywodraeth Cymru.

Pwy all apelio?

Yr unig berson a all gyflwyno apĂȘl yw'r person a wnaeth y cais cynllunio.

Nid oes gan wrthwynebwyr cais cynllunio unrhyw hawl apelio, ac ni all rhywun sy'n cefnogi'r cais cynllunio a wrthodwyd gan yr Awdurdod Cynllunio wneud apĂȘl.

Pryd y gallaf apelio?

Gallwch apelio yn yr amgylchiadau dilynol:

  • Os gwrthodwyd y cais cynllunio
  • Os nad yw'r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi gwneud penderfyniad o fewn yr amser a ganiateir ar gyfer y math o gais
  • Os yr ystyrir wrth gymeradwyo'r cynllun fod yr amod(au) sy'n gysylltiedig Ăą'r caniatĂąd cynllunio yn amhriodol.

Cyflwyno apĂȘl cynllunio

Mae gwahanol derfynau amser i wneud apĂȘl yn dibynnu ar y math o apĂȘl a'r amgylchiadau.

Mae'n rhaid cyflwyno apĂȘl gan ddeiliaid tai neu fasnachol bach i'r Gyfarwyddiaeth Cynllunio o fewn 12 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad penderfyniad.

CaniatĂąd hysbyseb: rhaid cyflwyno i'r Arolygiaeth Cynllunio o fewn 8 wythnos o ddyddiad derbyn yr hysbysiad penderfynu. Os yw'r apĂȘl yn erbyn hysbysiad dod i ben, mae'n rhaid iddi gyrraedd yr Arolygiaeth cyn y dyddiad y daw'r hysbysiad i rym.

Mae'n rhaid cyflwyno mathau eraill o geisiadau cynllunio o fewn 6 mis o ddyddiad yr hysbysiad penderfyniad, neu unrhyw bryd ar ĂŽl i'r cyfnod statudol ddod i ben oedd gan yr awdurdod cynllunio ar gyfer penderfynu ar y cais.

Gallwch apelio am benderfyniad cynllunio drwy . Mae'r wefan yn cynnwys popeth sydd angen i chi wybod am y broses apelio.

Mae'n ofynnol i chi anfon copi o'ch apĂȘl yn cynnwys manylion yr apĂȘl a dogfennau cefnogi atom yn planning@blaenau-gwent.gov.uk neu drwy'r post at:

Rheoli Datblygu,Y Swyddfeydd Cyffredinol,Heol Gwaith Dur,Glyn Ebwy,GwentNP23 6DN

Cost

Nid yw'n costio dim i apelio yn erbyn gwrthod caniatĂąd cynllunio.

Pa mor hir mae’n ei gymryd?

Fel arfer mae'n cymryd tua 15 i 30 wythnos i wneud penderfyniad. Bydd hyn yn amrywio yn dibynnu ar y weithdrefn a ddefnyddir ar gyfer yr apĂȘl er enghraifft sylwadau ysgrifenedig, ymchwiliad ac ati.

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Datblygu
Rhif FfĂŽn: (01495) 364847

Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN

E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk