³ÉÈË´óƬ

Parcio ar y Stryd

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent fel awdurdod priffyrdd ar hyn o bryd yn archwilio datrysiadau gwefru ar y stryd ac yn cynnal treial gwefru ar y stryd ar raddfa fach. Y tu allan i’r treial, er budd diogelwch ar y briffordd ac at ddibenion gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol, nid yw’r awdurdod priffyrdd yn gallu caniatáu llusgo ceblau ar draws priffordd gyhoeddus neu lwybr troed na sianelu ceblau o dan y llwybr troed. Mae hyn oherwydd materion atebolrwydd cyhoeddus, gan gynnwys y risg o beryglon baglu a materion diogelwch trydanol mwy cymhleth yn y man defnyddio.

Mae’r cyngor yn cynnal treial gwefru ar y stryd ar raddfa fach yn y fwrdeistref. Rydym yn treialu dau ddatrysiad ar ffurf cwter i ganiatáu i breswylwyr heb barcio oddi ar y stryd wefru eu cerbydau trydan yn ddiogel gartref. Y ddau ddatrysiad hyn yw Kerbo Charge a Gul-e gan ODS. Bwriedir i’r treial bara deuddeg mis, er mwyn caniatáu amser i’r cyngor ddadansoddi llwyddiant y treial ac asesu ein hopsiynau yn y dyfodol. Mae’n bosibl y bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer gosod y cwter, ac felly rydym yn cynghori preswylwyr sy’n cymryd rhan i gysylltu â’r Adran Gynllunio. Rhaid peidio â gwneud unrhyw waith ar y briffordd hyd nes y bydd y drwydded gwaith stryd angenrheidiol wedi’i rhoi gan yr awdurdod priffyrdd.

Mae’r cyngor yn ymwybodol na fydd datrysiad ar ffurf cwter yn addas ar gyfer pob eiddo, ac rydym yn parhau i archwilio datrysiadau gwefru ar y stryd. Os bydd unrhyw dreialon yn y dyfodol yn cael eu nodi, byddai angen i breswylwyr fod â cherbyd trydan neu hybrid, neu allu dangos bod archeb wedi’i gosod ar gyfer un, er mwyn cael eu hystyried. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y treial presennol, anfonwch e-bost at: EVCharging@blaenau-gwent.gov.uk .