Cyn i chi allu pleidleisio, rhaid i’ch enw gael ei gynnwys ar y gofrestr etholiadol.Ìý
Gallwch bleidleisio mewn sawl fforddÌý
Pleidleisio mewn Gorsaf Bleidleisio
Bydd cerdyn pleidleisio yn cael ei anfon atoch ychydig wythnosau cyn yr etholiad a fydd yn rhoi cyfeiriad eich gorsaf bleidleisio i chi.Ìý
Yn yr orsaf bleidleisio bydd y Clerc yn gofyn i chi am eich enw a chyfeiriad. Yna byddwch yn cael papur pleidleisio a fydd yn dweud dros sawl ymgeisydd sydd angen i chi bleidleisio. Yn y bwth pleidleisio, rhowch groes (X) yn erbyn yr ymgeisydd neu’r ymgeiswyr o’ch dewis.Ìý
Cynhelir etholiadau rhwng 7 a.m. a 10 p.m. fel arfer ar ddydd Iau.Ìý
Gellir dod o hyd i daith rithwir o orsaf bleidleisio ar .Ìý
Dod o hyd i My Gorsaf Bleidleisio
Ìý
Pleidleisio drwy’r PostÌý
Cysylltwch â ni am ffurflen gais i bleidleisio drwy’r post wedi’i chwblhau’n rhannol gyda’ch enw a chyfeiriad.Ìý Ar y ffurflen hon, rhaid i chi gwblhau’ch dyddiad geni a llofnodi. Bydd y rhain yn cael eu gwirio pan rydych yn pleidleisio er mwyn atal twyll.Ìý
Neu, fe allwch gwblhau cais i bleidleisio drwy’r post ar:Ìý
Os ydych chi’n penderfynu pleidleisio drwy’r post, ni allwch newid eich meddwl nes ymlaen a phleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.Ìý
Pleidleisio drwy Ddirprwy
Trwy wneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, rydych yn apwyntio person arall i bleidleisio ar eich rhan naill ai yn yr orsaf bleidleisio neu drwy’r post.Ìý
Cysylltwch â ni am ffurflen gais ar gyfer dirprwy. Rhaid i chi ddweud y rheswm pam wrthym. Er enghraifftÌý
- Mae gennych anabledd corfforol. Os mai dyma’r rheswm, efallai bydd rhaid i chi gynnwys datganiad gan ddoctor, nyrs neu warden cartref bod hyn yn gywirÌý
- Mae’ch gwaith yn eich cymryd i ffwrdd o’ch cartref, naill ai’n barhaol neu ar ddiwrnod yr etholiad.Ìý
- Byddwch ar wyliau ar ddiwrnod yr etholiad.Ìý
- Rydych wedi symud tÅ· ers i chi gofrestru a does dim modd i chi fynd i’ch hen orsaf bleidleisio.Ìý
Ìý
Enw’r Tîm: Gwasanaethau Etholiadol
Rhif Ffôn:ÌýÌýÌýÌýÌý 01495 355086/88
Cyfeiriad: ÌýY Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Cyfeiriad e-bost:ÌýÌý electoralservices@blaenau-gwent.gov.uk